MEMORANDWM ESBONIADOL I

 

Orchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016

 

Mae’r Memorandwm Esboniadol hwn wedi’i baratoi gan y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus ac fe’i cyflwynir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â’r is-ddeddfwriaeth uchod ac yn unol â Rheol Sefydlog 27.1.

 

Datganiad y Gweinidog

 

Yn fy marn i, mae’r Memorandwm Esboniadol hwn yn rhoi darlun teg a rhesymol o’r effaith y disgwylir i Orchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016 ei chael.

Carwyn Jones AC

Y Gwir Anrhydeddus

Prif Weinidog Cymru

 

14 Rhagfyr 2015

 


1. Disgrifiad

 

1.1 Mae Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016 (‘y Gorchymyn’) yn diwygio Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (‘y Mesur’) sy’n nodi (i) y sefydliadau (cyfeiri’r atynt fel personau yn y Mesur) sy’n agored i orfod cydymffurfio â safonau’r Gymraeg a (ii) pa gategorïau o safonau sy’n gymwysadwy i bob sefydliad.

1.2 Mae’r Gorchymyn yn delio â newidiadau megis hepgor enwau sefydliadau nad ydynt bellach yn bodoli, cynnwys sefydliadau newydd, a diwygio enwau sefydliadau eraill i adlewyrchu newidiadau sydd wedi digwydd ers i’r Mesur gael ei wneud.

2. Materion o ddiddordeb arbennig i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

 

2.1 Caiff Gorchmynion i ddiwygio Atodlen 6 eu gwneud o bryd i’w gilydd. Byddant yn cynnwys newidiadau i enw neu statws sefydliadau, yn dileu sefydliadau nad ydynt bellach yn bodoli ac yn mewnosod sefydliadau  newydd, i sicrhau y gall Gweinidogion Cymru wneud safonau sy’n benodol gymwys iddynt.

 

 

3. Cefndir deddfwriaethol

3.1 Mae Adran 35 o’r Mesur yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, i ddiwygio’r tabl yn Atodlen 6 fel bod colofn 1 y tabl yn cynnwys (i) sefydliad sy’n dod o fewn un neu ragor o gategorïau Atodlen 5 neu (ii) categori o sefydliadau y mae pob un ohonynt yn dod o fewn un neu ragor o gategorïau Atodlen 5.

3.2 Mae Adran 38 o’r Mesur yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, i ddiwygio tabl Atodlen 6 fel bod colofn 2 o gofnod sefydliad (neu o gofnod ‘categori o sefydliadau’) yn cynnwys cyfeiriad at un neu ragor o’r canlynol (i) safonau cyflenwi gwasanaethau, (ii) safonau llunio polisi, (iii) safonau gweithredu a (iv) safonau cadw cofnodion.

3.3 Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Atodlen 6 i’r mesur drwy;

(a)   mewnosod sefydliadau newydd a phennu dosbarthiadau o safonau yng ngholofn 2 o gofnod pob sefydliad;

(b)   tynnu sefydliadau  oddi yno lle bo hynny’n briodol, er enghraifft os yw sefydliad wedi ei ddiddymu;

(c)   diwygio enwau sefydliadau sydd wedi newid ers i’r Mesur gael ei wneud.

 

3.4 Mae’r Gorchymyn hwn yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y weithdrefn gadarnhaol).

 

 

4. Pwrpas y ddeddfwriaeth, a’r effaith y disgwylir iddi ei chael

 

Cefndir

 

4.1 Cadarnhaodd y Mesur statws swyddogol y Gymraeg yng Nghymru a chreodd fframwaith deddfwriaethol newydd ar gyfer yr iaith. Mae pennu safonau ac awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg i’w gwneud yn ofynnol i bobl gydymffurfio â’r safonau hynny yn gam allweddol yn y gwaith o roi effaith i’r Mesur.

 

 

Y mater

 

4.2 Mae Atodlen 6 i’r Mesur yn nodi’r categorïau o sefydliadau a’r sefydliadau unigol sy’n agored i orfod cydymffurfio â safonau. Mae angen diweddaru’r Atodlen bellach; nid yw rhai o’r sefydliadau a enwir yn yr Atodlen yn bodoli bellach, mae rhai wedi newid eu henw ac mae eraill wedi uno i greu sefydliadau newydd. Yn ogystal, mae’r Comisiynydd wedi dod i’r casgliad, yn dilyn ymchwiliad safonau, y dylai rhai sefydliadau nad oeddent yn flaenorol wedi’u cynnwys yn Atodlen 6 i’r Mesur fod yn agored i orfod cydymffurfio â safonau’r Gymraeg.

 

4.3 Fel rhan o’r broses o baratoi’r Gorchymyn hwn, mae Gweinidogion Cymru wedi ystyried casgliadau’r Comisiynydd, ynghyd ag ystyried a yw’r sefydliadau hyn yn dod o fewn un neu ragor o’r categorïau yn Atodlen 5 a phriodoldeb  cynnwys y sefydliadau yn Atodlen 6. Mae’r Gorchymyn yn adlewyrchu’r newidiadau hyn.

 

 

Pwrpas

 

4.4 Bydd y Gorchymyn hwn yn diweddaru’r rhestr o sefydliadau yn Atodlen 6 i adlewyrchu’r newidiadau.

 

-       Mae paragraffau 1 a 2 o’r Atodlen i’r Gorchymyn yn mewnosod enwau sefydliadau i Atodlen 6 i’r Mesur.


Mae’r Gweinidogion wedi ystyried pob sefydliad a gynhwysir yn y Gorchymyn i sicrhau eu bod yn dod o fewn un neu ragor o’r categorïau yn Atodlen 5, ac maent yn fodlon eu bod .

-       Mae paragraffau 3 a 4 o’r Atodlen i’r Gorchymyn yn hepgor cofnodion pan nad yw’r sefydliadau hynny bellach yn bodoli, pan fyddant yn cwympo i un o gategorïau Atodlen 6 yn barod, neu pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod sefydliad yn dod o fewn Atodlen 7 a 8 i’r Mesur.

-       Mae paragraffau 5 a 6 o’r Atodlen i’r Gorchymyn yn newid y cofnodion lle bo’r sefydliadau y sonnir amdanynt wedi newid eu henw.

 

 

Effaith

4.5 Bydd y Gorchymyn hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru (drwy Reoliadau ar wahân) i wneud safonau yn benodol gymwys i’r sefydliadau neu’r categorïau o sefydliadau a gynhwysir ym mharagraffau 1 a 2 o’r Atodlen i’r Gorchymyn ac i’r sefydliadau y mae eu henwau wedi newid (gweler paragraffau 5 a 6 o’r Gorchymyn). Bydd hynny’n golygu y bydd y Comisiynydd wedi’i awdurdodi i’w gwneud yn ofynnol i’r sefydliadau hynny gydymffurfio â safonau.

 

Y risg os na chaiff y newidiadau eu gwneud i’r ddeddfwriaeth

 

4.6 Oni bai bod sefydliad sy’n dod o fewn un neu ragor o’r categorïau yn Atodlen 5 i’r Mesur hefyd wedi ei gynnwys yn Atodlen 6, ni fydd Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud safonau’n benodol gymwys iddynt. Bydd hyn yn golygu na fydd y Comisiynydd yn gallu ei gwneud yn ofynnol i’r sefydliad gydymffurfio â safonau.

 

4.7  Gallai hyn arwain at wireddu’r risgiau a ganlyn;

 

·         Methu â rhoi elfen allweddol o’r Mesur ar waith. Hynny yw, cyflwyno’r drefn safonau ac awdurdodi’r Comisiynydd i’w gwneud yn ofynnol i sefydliad gydymffurfio â safonau.

·         Efallai na chaiff sefydliad sy’n ymwneud â’r cyhoedd ei gynnwys yn y drefn safonau newydd.

·         Bydd anghysondeb o ran y dyletswyddau a osodir ar sefydliadau yn yr un sectorau.

·         Bydd y cyhoedd yn ansicr ynghylch pa wasanaethau y gallant ddisgwyl eu derbyn yn Gymraeg. Bydd yr ansicrwydd yn parhau os na chaiff y Gorchymyn hwn ei wneud i ganiatáu i safonau gael eu gwneud yn benodol gymwys i sefydliadau sy’n dod o fewn un neu ragor o’r categorïau yn Atodlen 5 i’r Mesur.

·         Ni fydd sefydliadau sydd â Chynllun Iaith Gymraeg o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn trosglwyddo i’r drefn safonau.

 

5. Ymgynghori

 

5.1 Nid yw Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ar y Gorchymyn hwn gan nad yw’r Gorchymyn yn rhoi unrhyw ddyletswyddau’n uniongyrchol ar y sefydliad. Mae Atodlen 6 i’r Mesur yn nodi’r sefydliadau a’r categorïau o sefydliadau sy’n agored i orfod cydymffurfio â safonau.

 

5.2 Cyn i sefydliad orfod cydymffurfio â Safonau, rhaid bodloni nifer o amodau. Nodir y rhain yn adran 25 o’r Mesur. Un amod yw bod rhaid i Weinidogion Cymru wneud safonau’n benodol gymwys i’r sefydliad drwy Reoliadau. At hynny, rhaid i’r Comisiynydd gyflwyno hysbysiad cydymffurfio i’r sefydliad yn nodi pa safonau y mae’n rhaid i’r sefydliad gydymffurfio â nhw (ym mha amgylchiadau ac ardaloedd). Bydd yr hysbysiad cydymffurfio hefyd yn nodi’r dyddiad y mae’n rhaid i’r sefydliad ddechrau cydymffurfio.

5.3  Cyn rhoi hysbysiad cydymffurfio i’r sefydliad, rhaid i’r Comisiynydd ymgynghori ag ef yn unol ag adran 47 o’r Mesur (oni bai bod y Comisiynydd yn fodlon ei fod eisoes wedi ymgynghori â’r sefydliad neu fod y sefydliad wedi cael y cyfle i gyfrannu at ymgynghoriad ar y mater fel rhan o ymchwiliad safonau).

 

5.4 Bydd unrhyw sefydliad yn gallu herio’r gofyniadau i gydymffurfio â safon benodol ar y sail nad yw’n rhesymol ac yn gymesur gofyn iddo wneud hynny. Yn y lle cyntaf, bydd sefydliad yn gallu cyflwyno her i’r Comisiynydd. Os na fyddant yn gallu datrys yr anghydfod, gellir apelio i Dribiwnlys y Gymraeg, ac yna i’r Uchel Lys.

 

5.5 Gyda dau eithriad, mae’r holl sefydliadau ym mharagraffau 1 a 2 o’r Gorchymyn wedi cymryd rhan yn Ymchwiliad Safonau’r Comisiynydd; y ddau eithriad yw'r Sefydliad Ffilm Prydeinig a Glandŵr Cymru sy’n sefydliadau olynol i Gyngor Ffilm y DU a Bwrdd Dyfrffyrdd Prydain, yn ôl eu trefn. Enwir y ddau yn Atodlen 6. Y bwriad o’u cynnwys yn y Gorchymyn yw diweddaru Atodlen 6.

 

 

6. Asesiad Effaith Rheoleiddiol

 

6.1 Ystyrir nad oes angen Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn cysylltiad â Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2016 gan nad yw’n gosod costau uniongyrchol ac mai rhan o ddiweddaru Mesur 2011 ydyw.